Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Mehefin 2013 i'w hateb ar 2 Gorffennaf 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gymorth y gall ei roi i gymunedau sy'n dymuno cynnal cofebion rhyfel? OAQ(4)0053(CS)

2. Keith Davies (Llanelli):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei raglen waith i hybu cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru? OAQ(4)0052(CS)W

 

3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i'r berthynas rhwng chwarae a chwaraeon wrth ddatblygu ei bolisïau? OAQ(4)0045(CS)

 

4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau chwaraeon yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0039(CS)

 

5. Keith Davies (Llanelli): Pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal rhwng y Gweinidog a'i swyddogion a Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynglŷn â Chlwb Pêl-droed Llanelli OAQ(4)0051(CS)W

6. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfranogiad mewn chwaraeon ar gyfer pobl anabl yng Nghymru? OAQ(4)0048(CS) TYNNWYD YN ÔL

7. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth a roddir i sefydliadau celfyddydol sy'n cynrychioli Cymru dramor? OAQ(4)0044(CS)

8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i ddatblygu chwaraeon morol yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0038(CS)

9. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog plant i gymryd rhan mewn chwaraeon fel rhan o ffordd iach o fyw? OAQ(4)0037(CS)

10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae ei adran wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag S4C? OAQ(4)0046(CS)W

11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):
A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau i ehangu gwybodaeth am hanes diwylliannol Cymru? OAQ(4)0050(CS)

12. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnal digwyddiadau diwylliannol yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0047(CS) TYNNWYD YN ÔL

13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo treftadaeth lenyddol Cymru? OAQ(4)0041(CS)

 

14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu rôl theatr yng Nghymru o ran cyflwyno'r celfyddydau i gymunedau? OAQ(4)0043(CS)

 

15. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae treftadaeth Dwyrain De Cymru yn cael ei hyrwyddo i annog adfywio'r rhanbarth hwn? OAQ(4)0040(CS)